Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 19 Mehefin 2023 |
|
||||
Amser: |
10.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2023(5) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Simon Hart, Pennaeth dros dro y Gwasanaethau Ariannol Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Matthew Jones, Rheolwr Cynaliadwyedd Mair Parry-Jones, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Sarah Dafydd, Rheolwr Newid a Gwella Busnes Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
Croesawyd Kate Innes i’w chyfarfod Comisiwn cyntaf fel y Prif Swyddog Cyllid.
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 22 Mai.
2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2022-23
Trafododd y Comisiynwyr eu hadroddiad blynyddol a’u cyfrifon ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Cawsant sicrwydd bod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi argymell cymeradwyo’r adroddiad, a chytunwyd ar y fersiwn derfynol i'w chyhoeddi, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau.
3 Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2022-23
Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio datblygu cynaliadwy yr adroddiad ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd y Senedd a gweithrediadau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd yr adroddiad yn amlygu cyflawniadau amgylcheddol allweddol, perfformiad yn erbyn targedau gan gynnwys ail flwyddyn y Strategaeth Carbon Niwtral, y defnydd o gyfleustodau, a chrynodeb o’r gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Trafododd y Comisiynwyr fesurau arbed ynni ac awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol casglu data ychwanegol mewn perthynas â theithio mewn cerbydau trydan.
Cytunodd y Comisiynwyr i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau, ac i ddarparu'r adroddiad i'r Pwyllgor Cyllid yn unol â’i argymhelliad sy’n ymwneud â gwybodaeth am arbed ynni.
4 Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2022-23
Cyflwynodd y Comisiynydd gyda'r portffolio Ieithoedd Swyddogol yr adroddiad ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, gan gynnwys cymeradwyo a gweithredu'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad gan nodi y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu cyn diwedd y tymor.
5 Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-23
Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio Cydraddoldebau yr Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2022-23, a oedd yn adrodd ar gynnydd a wneir gan dimau ar draws Comisiwn y Senedd o ran cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn (2022-26).
Nododd y Comisiynwyr y penawdau o ddiddordeb ac eitemau newydd yn adroddiad eleni gyda'r bwriad o gynyddu tryloywder data a gwella hygyrchedd. Trafodwyd y data economaidd-gymdeithasol a lledaeniad daearyddol yr ymateb i recriwtio i swyddi’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad i'w gyhoeddi, ynghyd â'r gyfres gysylltiedig o adroddiadau data Amrywiaeth a Chynhwysiant a fyddai'n cyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar y cynnig i adnewyddu aelodaeth y Comisiwn o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ar gyfer 2024/25.
6 Adroddiad Adolygu Urddas a Pharch
Trafododd y Comisiynwyr ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad urddas a pharch.
Clywodd y Comisiynwyr am gynlluniau rhai grwpiau i orfodi cyfranogiad mewn hyfforddiant urddas a pharch a chytunwyd ar werth eirioli bod yr hyfforddiant a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad.
Awgrymwyd y dylid ystyried urddas a pharch wrth i staff ryngweithio ar ddechrau ac ar ddiwedd eu cyflogaeth. Trafodwyd hefyd bwysigrwydd darparu gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb y mae materion sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn effeithio arno, ac amlygwyd ei bod wedi bod yn ddefnyddiol pan oedd gwybodaeth yn cael ei harddangos yn gorfforol ar yr ystâd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad, ei wyth argymhelliad a'r camau nesaf; yn benodol:
· ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi a datblygu diwylliant o urddas a pharch ar draws y Senedd;
· gwahodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd i ystyried canfyddiadau'r adolygiad, gan gynnwys y dylai'r Senedd roi Datganiad trosfwaol ar y cyd ar Urddas a Pharch yn lle’r polisi tair rhan presennol;
· cytuno ar ddatganiad trosfwaol drafft ar y cyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Safonau;
· camau i'w cymryd o fewn y Comisiwn ynghyd â chyfrifoldebau clir am arweinyddiaeth a gweithgareddau; ac
· eirioli ymhlith eu grwpiau, a’r Aelodau annibynnol, fod yr hyfforddiant urddas a pharch a gynigir gan y Comisiwn yn cael ei gymryd gan yr holl Aelodau a'u staff yn ddieithriad.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai'r adroddiad yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fyddai'n cyhoeddi'r adroddiad fel rhan o'i waith ar y mater hwn, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau a'r Grŵp Cyswllt Gwleidyddol.
7 Papurau i'w nodi:
7.a Diweddariad Ffyrdd o Weithio
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad am gyfeiriad a chynnydd eu rhaglen newid mawr 'Ffyrdd o Weithio', wrth i'r gwaith symud y tu hwnt i gyfnod y Cynllun Gweithredu Cychwynnol i'w gyfnod cyflawni strategol.
7.b Canlyniadau’r Arolwg Staff Blynyddol
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad ar Arolwg Staff Blynyddol Comisiwn y Senedd ar gyfer y flwyddyn 2022/23.
7.c Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 27 Ebrill
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i'r Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
7.d Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau awdurdodi recriwtio)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
8 Unrhyw fater arall
Diwygio'r Senedd – cafodd y Comisiynwyr wybod bod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cais i addasu'r rhagdybiaethau ar gyfer amcangyfrifon costau Comisiwn y Senedd yn sgil Bil Diwygio'r Senedd sydd yn yr arfaeth. Byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i gyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf.
Llythyr gan PCS - cafodd y Comisiynwyr wybod am lythyr gan Gangen y PCS yng Nghomisiwn y Senedd.
Newid Comisiynydd – diolchodd Rhun ap Iorwerth i bawb a oedd wedi gweithio gydag ef a'i gefnogi yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd, cyn iddo ymddiswyddo.